[English] - [Cymraeg]
We receive thousands of phone calls each week from people looking for help and information on the lasting power of attorney (LPA) process. This blog series answers your questions by breaking down the different stages of your LPA journey.
Here we look at common questions around attorneys, witnesses and certificates providers. See also:
Completing forms
includes signing forms in order
Payments and fees
includes cheques and applying for remissions and exemptions
Using your LPA
includes reference numbers, activation keys and access codes
Reporting and making changes to your LPA
includes reporting a death and changing address
Can anyone be an attorney?
Yes, as long as the person is aged 18 or over and able to understand the responsibility of becoming an attorney.
If you’re looking for someone to help with your finances, consider someone with a good history of managing money. If that person has been declared bankrupt, they won’t be able to act as a property and finance attorney but may still be able to act as a health and welfare attorney.
You should always choose people you trust. They could be a friend or family member or you can also appoint a professional such as a solicitor to be your attorney.
A professional will usually charge for their time. Speak to them about any charges beforehand.
If I live abroad, can I still have an LPA?
If you are the donor and live outside England or Wales, there may be complications and you might wish to seek independent legal advice. For example, there is a ‘habitual residency test’ which usually means that the donor will need to have property or assets in England and Wales for a Property and Financial Affairs LPA to be effective.
I want to appoint a family member as an attorney, but they live abroad. Can I still appoint them?
Your attorney does not need to live in the UK or be a British citizen.
In order to create the LPA all attorneys must sign the LPA document in person, in black pen and then have a witness sign the document too.
If your attorney lives abroad, you’ll need to post the LPA forms to them to sign and have them posted back to you.
Once they’ve been signed and registered your attorney can act from anywhere in the world. However, when appointing your attorneys, make sure you’re clear on how you want them to act, especially if one lives in a different country, as it could cause practical issues later.
Who can witness an LPA?
A donor’s signature must be witnessed by:
- someone aged 18 or over
- not a named attorney or replacement attorney
An attorney’s signature must be witnessed by:
- someone aged 18 or over
- who is not the donor
Attorneys or replacement attorneys can witness each other’s signature but not the donor’s. Signatures can’t be witnessed online and must be done in person.
Who can be a certificate provider for my LPA?
A Certificate Provider must:
- not be related to the donor or attorney(s),
- be aged 18 or over
- have known the donor well for at least two years
- Not be classed as an employee or employer of the donor or attorney(s)
They sign the LPA after the donor and the donor’s witness. Their role is to make sure the donor can understand independently what they are signing and is not being forced into doing it. Ideally a certificate provider will speak to the donor separately and privately before signing and witnessing the document.
The certificate provider could also be a professional - someone with the skills to know if the donor is able to make the decision to make an LPA. For example:
- a registered healthcare professional, such as the donor’s GP
- a solicitor, barrister or advocate
- a registered social worker
- an independent mental capacity advocate
More information on certificate providers can be found here.
[English] - [Cymraeg]
Rydyn ni’n cael cannoedd o alwadau ffôn bob wythnos gan bobl sy’n chwilio am help a gwybodaeth ynghylch llawer o wahanol bethau. Mae’r gyfres hon o flogiau’n ateb eich cwestiynau drwy ddadansoddi gwahanol gamau eich taith Atwrneiaeth Arhosol.
Yma rydym yn edrych ar gwestiynau cyffredin ynghylch atwrneiod, tystion a darparwyr tystysgrifau.Gweler hefyd:
Llenwi ffurflenni
yn cynnwys llofnodi ffurflenni mewn trefn
Taliadau a ffioedd
yn cynnwys sieciau a gwneud cais am ostyngiadau ac esemptiadau
Defnyddio eich Atwrneiaeth Arhosol
Yn cynnwys cyfeirnodau, allweddi ysgogi a chodau mynediad
Adrodd a gwneud newidiadau i’ch LPA
Yn cynnwys rhoi gwybod am farwolaeth a newid cyfeiriad
Oes modd i unrhyw un fod yn atwrnai?
Oes, cyn belled â bod yr unigolyn yn18 oed neu’n hŷn ac yn deall y cyfrifoldeb o fod yn atwrnai.
Os ydych chi’n chwilio am rywun i helpu gyda’ch materion ariannol, ystyriwch rywun sydd â hanes da o reoli arian. Os ydy’r unigolyn hwnnw wedi cael ei wneud yn fethdalwr, ni fydd yn gallu gweithredu fel atwrnai eiddo ac arian, ond bydd efallai y bydd yn dal yn gallu gweithredu fel atwrnai iechyd a lles.
Dylech bob amser ddewis pobl yr ydych yn ymddiried ynddynt. Gallent fod yn ffrind neu’n aelod o’r teulu neu gallwch hefyd benodi gweithiwr proffesiynol fel cyfreithiwr i fod yn atwrnai i chi.
Bydd gweithiwr proffesiynol fel arfer yn codi tâl am ei amser. Siaradwch â nhw am unrhyw gostau ymlaen llaw.
Os wyf yn byw dramor, a oes modd i mi gael LPA o hyd?
Os mai chi yw’r rhoddwr ac yn byw y tu allan i Gymru neu Loegr, efallai y bydd cymhlethdodau ac efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. Er enghraifft, ceir ‘prawf preswylio arferol’ sydd fel arfer yn golygu y bydd angen i’r rhoddwr gael eiddo neu asedau yng Nghymru a Lloegr er mwyn i LPA Eiddo a Materion Ariannol fod yn effeithiol.
Rydw i eisiau penodi aelod o’r teulu fel atwrnai, ond mae’n byw dramor. Oes modd i mi eu penodi?
Nid oes angen i’ch atwrnai fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.
Er mwyn creu’r atwrneiaeth atodol rhaid i bob atwrnai lofnodi’r ddogfen LPA ei hun, gyda phin du a chael tyst i lofnodi’r ddogfen hefyd.
Os yw eich atwrnai’n byw dramor bydd angen i chi bostio’r ffurflenni LPA ato i’w llofnodi a sicrhau ei fod yn eu postio’n ôl atoch chi.
Ar ôl i’r ffurflenni gael eu llofnodi a’u cofrestru, bydd eich atwrnai yn gallu gweithredu o unrhyw le yn y byd. Fodd bynnag, wrth benodi eich atwrneiod, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod sut rydych chi eisiau iddyn nhw weithredu, yn enwedig os yw un yn byw mewn gwlad wahanol, oherwydd gallai hyn achosi problemau ymarferol yn nes ymlaen.
Pwy sy’n cael bod yn dyst i atwrneiaeth arhosol?
Rhaid i lofnod y rhoddwr gael ei dystio gan:
- rywun 18 oed neu hŷn
- heb fod yn atwrnai a enwir nac yn atwrnai wrth gefn
Rhaid i lofnod yr atwrnai gael ei dystio gan:
- rywun 18 oed neu hŷn
- nad yw'n rhoddwr
Gall atwrneiod neu atwrneiod wrth gefn fod yn dyst i lofnod ei gilydd ond nid llofnod y rhoddwr. Ni ellir tystio i lofnodion ar-lein a rhaid gwneud hynny wyneb yn wyneb.
Pwy sy’n cael bod yn ddarparwr tystysgrif ar gyfer fy atwrneiaeth arhosol?
Rhaid i Ddarparwr Tystysgrif:
- beidio â bod yn perthyn i’r rhoddwr neu’r atwrnai (atwrneiod),
- bod yn 18 oed neu’n hŷn
- wedi adnabod y rhoddwr yn dda ers o leiaf dwy flynedd
- Peidio â chael eich ystyried yn gyflogai neu’n gyflogwr i’r rhoddwr neu’r atwrnai (atwrneiod)
Byddant yn llofnodi’r LPA ar ôl y rhoddwr a thyst y rhoddwr. Eu rôl yw sicrhau bod y rhoddwr yn gallu deall yn annibynnol yr hyn y mae’n ei lofnodi ac nad yw’n cael ei orfodi i’w wneud. Yn ddelfrydol, bydd darparwr tystysgrif yn siarad â’r rhoddwr ar wahân ac yn breifat cyn llofnodi a thystio’r ddogfen.
Gallai’r darparwr tystysgrif hefyd fod yn weithiwr proffesiynol – rhywun sydd â’r sgiliau i wybod a yw’r rhoddwr yn gallu gwneud y penderfyniad i wneud LPA. Er enghraifft:
- gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, fel meddyg teulu’r rhoddwr
- cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu eiriolwr
- gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
- eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol
Mae rhagor o wybodaeth am ddarparwyr tystysgrif ar gael yma:
Leave a comment